Y mae syched ar fy nghalon

1,2,(3).
(Ymgeledd mewn tir sychedig)
Y mae syched ar fy nghalon
  Heddyw am gael gwir fwynhau
Dyfroedd hyfryd
      ffynnon Bethle'm -
  Dyfroedd gloyw sy'n parhau;
    Pe cawn hyny,
  'Mlaen mi gerddwn ar fy nhaith.

Y mae gwrês y dydd mor danbaid,
  Grym fy nwydau fel y tân,
A gwrthrychau gwâg o'm cwmpas
  Am fy rhwystro i fyn'd yn mlaen:
    Rho i mi gysgod,
  Addfwyn Iesu, ganol dydd.

Dyma'r man dymunwn aros,
  O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd ysbryd euog
  A themtasiwn o bob rhyw,
    Dan awelon,
  Peraidd hyfryd tir fy Nhad.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Ardudwy (J Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)
Bryn Aber (David Vaughan Thomas 1873-1934)
Dolycoed (William Harris 1820-1910)
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Islwyn (David Lewis 1828-1908)
St Peter (alaw Eglwysig)

gwelir:
  Dyma'r man dymunwn aros
  Rho gydwybod wedi ei chànu

(Succour in a dry land)
There is a thirst upon my heart
  Today to get truly to enjoy
The delightful waters
      of the fount of Bethlehem -
  Clear waters which are enduring;
    If I got this,
  Forward I would walk on my journey.

The heat of the day is so fiery,
  The force of my lusts like the fire,
And vain objects around me
  Wanting to obstruct my going forwards:
    Give me shelter,
  Gentle Jesus, at midday.

Here is the place I wish to stay,
  Within the pure tent of my God,
Above the tumults of a guilty spirit
  And temptations of every kind,
    Under the sweet,
  Breezes of my Father's delightful land.
tr. 2017,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~